Sut i archebu ail bresgripsiwn
Rhaid i gleifion sicrhau bod ceisiadau am feddyginiaeth wedi eu cyflwyno o leiaf 1 wythnos cyn i'w meddyginiaeth ddarfod.
Gwnawn bob ymdrech i ddelio â’ch eich cais o fewn yr amser hwn.
Gellir cyflwyno ceisiadau i:
- Ap GIG Cymru: Os gwelwch yn dda gwnewch gais drwy'r dderbynfa a bydd mynediad yn cael ei roi i chi archebu eich presgripsiynau ar-lein, mae hyn yn cymryd lle y system e-bost flaenorol o archebu presgripsiynau.
- Drwy'r post (gan amgáu amlen wedi ei hunan-gyfeirio a'i stampio).
- Mewn person gan ddefnyddio'r blwch ceisiadau am ail bresgripsiwn yn y practis.
- Gollwng yn eich Fferyllfa agosaf (mae hwn yn wasanaeth y mae rhai Fferyllfeydd yn ei ddarparu ond gall fod angen mwy na 72 awr, gwiriwch os gwelwch yn dda gyda'ch Fferyllfa, mae'r gwasanaeth hwn y tu allan i'n hymrwymiad 72 awr).