Amdanom ni
Croeso i Canolfan Feddygol West End
Mae gan ein Practis dîm aml-ddisgyblaethol, sy'n golygu bod gennym ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gwrdd â'ch anghenion iechyd. Gall y tîm aml-ddisgyblaethol gynnwys:
- Meddygon
- Uwch Ymarferwyr Clinigol yn cynnwys Nyrsys, Parafeddygon, Ffisiotherapyddion, Fferyllwyr ac Awdiolegwyr
- Timau Cyflyrau Cronig medrus a Nyrsio Practis
- A Llyw-wyr Gofal a thîm derbynfa a gweinyddu
Rydym yn anelu at gynnig mynediad amserol at y gweithiwr proffesiynol mwyaf addas i gwrdd â'ch anghenion iechyd gan wneud hynny mewn dull cyfeillgar, proffesiynol, yn delio â'ch ymholiad yn effeithlon ac effeithiol.
Rydym yn trin pob claf yn gyfartal a heb ragfarn rhyw, tras neu anabledd.
Rheolir y Practis gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.